Dewch i fwynhau ychydig o awyr iach ac ymweld â Gerddi Botaneg Singleton ddydd Mawrth 24 Chwefror ar gyfer Taith Dywys y Cennin Pedr. Byddwn yn cyfarfod yng nghanolfan addysg Tŷ'r Blodau am 11am.
Hefyd, mae taith adar a bywyd gwyllt o amgylch Parc Brynmill ddydd Sul 1 Mawrth am 11am.
Mae'r teithiau'n costio £1 i bob oedolyn a 50c i blant, felly dewch i ddarganfod natur ar eich carreg ddrws - ffoniwch 01792 205327 am ragor o fanylion.